Aberdaron – Rhoshirwaun, Llanfaelrhys, Anelog a Uwchmynydd

Map Aberdaron, Rhoshirwaun, Llanfaelrhys, Anelog a Uwchmynydd

Mae cysylltiad gwael rhwng rhannau o gymunedau: Rhoshirwaun, Llanfaelrhys, Anelog a Uwchmynyd a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r map isod yn dangos yr eiddo nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynllun cyflwyno ar hyn o bryd i gael band eang cyflym iawn wedi’i gysylltu yn y 2 – 3 blynedd nesaf. Yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yr holl eiddo sydd wedi’u marcio â dot coch yn cael band eang cyflym iawn cyn 2023 ar y cynharaf.

Nid yw’r data y mae’r map yn seiliedig arno yn hollol gywir felly; os nad yw’ch eiddo wedi’i farcio yma, os nad yw’n dangos fel dot coch ar y map neu nad yw wedi’i restru isod, nid yw hyn yn golygu na allwch gefnogi ac ymuno â thendr sy’n seiliedig ar y gymuned yn mynd allan i ddarparwyr rhwydwaith ar gyfer gosod gwasanaethau band eang cyflym iawn yn eich cartref neu fusnes. Os yw’ch eiddo ar hyn o bryd yn profi cyflymderau cysylltiad rhyngrwyd isel o lai na 20Mbps a gerllaw neu gyfagos i eiddo sydd wedi’u hamlygu (Gallwch wirio cyflymder eich cysylltiad yn fan hyn) cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda.

I gofrestru’ch diddordeb mewn cael Gwasanaethau Cyflym Iawn i’ch cartref, llenwch y ffurflen isod.

Y cynnig yw y dylid gosod hwb rhwydwaith yn Neuadd Rhiw a fyddai wedyn yn ffynhonnell rhwydwaith diwifr ar gyfer bob eiddo a fyddai’n tanysgrifio i’r tendr. Byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei ategu gan Hwb Rhwydwaith ar wahân ar y Cilan a fyddai’n gwasanaethu Ynys Enlli ond a fyddai’n gallu darparu copi wrth gefn pe bai gwasanaethau data yn Rhiw yn methu.

Byddai angen i’r darparwr rhwydwaith detholedig arolygu pob eiddo er mwyn sicrhau y gallent dderbyn band eang cyflym iawn diwifr. Byddai angen i bob eiddo gael derbynnydd allanol a byddai rhai eiddo angen eitem ychwanegol o offer a elwir yn ‘Bridge’ wedi’i gosod ar y tu allan i’r eiddo. Mae maint yr unedau hyn oddeutu 20cm ac fe fyddent – yn dibynnu ar eu defnydd – yn defnyddio tua £30 o drydan y flwyddyn.

Paratowyd y rhestr hon â llaw gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru 2019. Nid yw’r data’n hollol gywir sy’n golygu y gallai fod gan rai o’r eiddo a restrir isod fynediad at fang eang cyflym iawn, gallai eiddo eraill gerllaw nad ydynt wedi’u rhestru gael eu heffeithio. Os nad yw’ch eiddo wedi’i restru ac rydych chi eisiau cadarnhau a ellir cysylltu’ch eiddo â Band Eang Cyflym Iawn eisoes, ewch i fan hyn.

Dyweder eich bod chi’n byw yn Cae Hen, Uwchmynydd, LL53 8BY, nodwch eich cod post llawn yn yr ardal chwilio yn rhan 2, ac ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch y blwch nesaf ato ar y canlyniad isod ac yna dewiswch y gwymplen ar y dde. Bydd hwn yn arddangos yr holl eiddo a restrir yn erbyn y cod post hwn. Dewiswch eich eiddo chi. Os nad yw’ch eiddo’n rhan o gyflwyniad cam 2a i ymestyn Band Eang cyflym iawn, cadarnheir hyn ac fe’ch anogir ar yr un pryd i edrych ar opsiynau eraill. Mae’r prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn un o’r opsiynau hyn.

Llanfaelrhys/Rhoshirwaun
Penrhyn Mawr, Penrhyn canol, Penrhyn Bach. Fferm Bryn, Ael y
Fron, Geufron, Pencae, Tai refail, Ty hywel. Cadlan uchaf, Cadlan
isaf. Pencaerau. Blawdty, Cae’r Odyn, Ysgo, Ty’n Rhyd uchaf. Nant.
Groeslon. Ty’n fawr, Ty’n lon fach, Ty’n Rhos. Congl cae hen,
Llawenan. Ty’n Rhedyn. Plas Iol. Noddfa. Ty canol. Mur poeth, Ty
Hen, Bod Hyfryd. Fferm pencaerau. Gorwel, Ty capel pencaerau.
Bryn Meina, Bodrydd. Glan gors, Felin uchaf, Ty’n Llyn, Bodwyddog
bach, Bodwyddog fawr, Bryn y badell, Ty’n lon Farm, Llys Owen,
Llidiardau. Fronolau, Llwyn, Dafarn, Dafarn Dwyarch, Islwyn, Arlwyn,
Arddlas, Derlwyn, Ty’n Pwll, Ty Crydd, Llyn gelod, Ystum, Cae Du,
Fachwen, Maen Enlli, Berth, Cwm Coryd, Awel y grug, Neuadd
pentref Rhoshirwaun, Awel y Grug, Rhianfa, Cae Engan, Refail
bach, Cyll y Felin Bach, Glan Felin, Penna’r Cerrig, Ty Nant,

Anelog/Uwchmynydd
Fferm Gors, Bryn Du, Bryn Deufor, Bryn mawr, Bryn Hyfryd, Cyndyn
uchaf, Cyndyn isaf, Pwll llwgr, Fferm Anelog, Tan y Fron, TYn y
Ffynon, Tan y Fron, Graig, Mount pleasant, Tyn y mynydd, Pen
Llech, Tacla hen, Tacla Tan y Fron, Bwlch Uchaf, Tai Bwlch, Ty’n
Anelog, Bod isaf bach, Bod isaf mawr, Pwll Defaid, BrynSanderd,
Tegfan, Cae Hen, Bryn Chwilog, Bryn Awelon, Bron Foel, Ty Capel,
Ystorfa Pencwm, Delfryn isaf, Pencwm, Ty Fry, Fron, Segar, Horeb,
Bwlch Gwyn, Ystol Helyg Bach, Cae Hen, Yr erw, Bro Delyn, Pen y
Bryn Uchaf, Pen y bryn uchaf, Penybryn Goronwy, Pen y maes
bella, Tir Glyn, Bodernid isaf, Pant, Pwll y Ciw, Bryn Canol, Cae
Crin, Garreg Fawr, Ty’n gamdda, Solfach, Bryn Poeth, Grepach,
Awelon, Bryn Poeth, Bryn Paned, Bodermyd uchaf, Bryniog, The
Bungalow, Tir Glyn, Pen y Maes bach, Pen y Maes Mawr, Cwrt. Bryn isaf, Sgubor bach, Ddwyrhyd, Cyll Llywelyn Fawr. Ty newydd, Ty’n Cae