Ceunant a Dyffryn Gwyrfai

Map Ceunant a Dyffryn Gwyrfai

Mae cysylltiad gwael rhwng rhannau o gymunedau Ceunant, Dyffryn Gwyrfai, Betws Garmon, Cwm y Glo a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r map isod yn dangos yr eiddo nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynllun cyflwyno ar hyn o bryd i gael band eang cyflym iawn wedi’i gysylltu yn y 2 – 3 blynedd nesaf. Yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yr holl eiddo sydd wedi’u marcio â dot coch yn cael band eang cyflym iawn cyn 2023 ar y cynharaf.

Nid yw’r data y mae’r map yn seiliedig arno yn hollol gywir felly; os nad yw’ch eiddo wedi’i farcio yma, os nad yw’n dangos fel dot coch ar y map neu nad yw wedi’i restru isod, nid yw hyn yn golygu na allwch gefnogi ac ymuno â thendr sy’n seiliedig ar y gymuned yn mynd allan i ddarparwyr rhwydwaith ar gyfer gosod gwasanaethau band eang cyflym iawn yn eich cartref neu fusnes. Os yw’ch eiddo ar hyn o bryd yn profi cyflymderau cysylltiad rhyngrwyd isel o lai na 20Mbps a gerllaw neu gyfagos i eiddo sydd wedi’u hamlygu (Gallwch wirio cyflymder eich cysylltiad yn fan hyn) cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda.

I gofrestru’ch diddordeb mewn cael Gwasanaethau Cyflym Iawn i’ch cartref, llenwch y ffurflen isod.

Map Ceunant
Dyffryn Gwyrfai a Betws Garmon
Map Groeslon a Waunfawr
Map Cwm y Glo

Eiddo yr Effeithir arnynt

Paratowyd y rhestr hon â llaw gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru 2019. Nid yw’r data’n hollol gywir sy’n golygu y gallai fod gan rai o’r eiddo a restrir isod fynediad at fang eang cyflym iawn, gallai eiddo eraill gerllaw nad ydynt wedi’u rhestru gael eu heffeithio. Os nad yw’ch eiddo wedi’i restru ac rydych chi eisiau cadarnhau a ellir cysylltu’ch eiddo â Band Eang Cyflym Iawn eisoes, ewch i fan hyn.

Dyweder eich bod chi’n byw yn Cae Hen, Uwchmynydd, LL53 8BY, nodwch eich cod post llawn yn yr ardal chwilio yn rhan 2, ac ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch y blwch nesaf ato ar y canlyniad isod ac yna dewiswch y gwymplen ar y dde. Bydd hwn yn arddangos yr holl eiddo a restrir yn erbyn y cod post hwn. Dewiswch eich eiddo chi. Os nad yw’ch eiddo’n rhan o gyflwyniad cam 2a i ymestyn Band Eang cyflym iawn, cadarnheir hyn ac fe’ch anogir ar yr un pryd i edrych ar opsiynau eraill. Mae’r prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn un o’r opsiynau hyn.

Haford Rhug Uchaf, Monte Verita, Tan yr allt isaf, Cil Haul, Plas y celyn, Hostel Chamois, Pen y Bryn, Fuches las, Tan y merddyn, Merddyn, Merddyn Morus, Bryn Glas, Bryn Tirion, Tan y Ffordd, Harlequin Farm, Pen y Craig, Tan y Graig, Fferm Ceunant, Plas Pant afon
Treflan UChaf, Tan yr onnen, Ty’n Wern, Hafod y wern, Ty Coch, Tors y Gol, Clogwen cellog, Ystrad isaf, Ystrad uchaf, Garreg wen, Bwthyn tyddyn bach, Tai isaf, The posthouse, Cynefi, Bryn Derwen, Ty Salem, Tan y Ffordd, Bron y Graig.
Gernant, Bryn Awelon, Nant Forgan, Elidir view, Bod Gwilym, Allt Goch, Min y Nant, Bryn Afon Bach, Bwlch Cottage, Cefn Bwlch Bach, Bryn Hafod, Bryn Hyfyd, Bryn Difyr, Bryntirion.