
Mae cysylltiad gwael rhwng rhannau o gymunedau Croesor, Tan lan, Rhyd a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r map isod yn dangos yr eiddo nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynllun cyflwyno ar hyn o bryd i gael band eang cyflym iawn wedi’i gysylltu yn y 2 – 3 blynedd nesaf. Yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yr holl eiddo sydd wedi’u marcio â dot coch yn cael band eang cyflym iawn cyn 2023 ar y cynharaf.
Nid yw’r data y mae’r map yn seiliedig arno yn hollol gywir felly; os nad yw’ch eiddo wedi’i farcio yma, os nad yw’n dangos fel dot coch ar y map neu nad yw wedi’i restru isod, nid yw hyn yn golygu na allwch gefnogi ac ymuno â thendr sy’n seiliedig ar y gymuned yn mynd allan i ddarparwyr rhwydwaith ar gyfer gosod gwasanaethau band eang cyflym iawn yn eich cartref neu fusnes. Os yw’ch eiddo ar hyn o bryd yn profi cyflymderau cysylltiad rhyngrwyd isel o lai na 20Mbps a gerllaw neu gyfagos i eiddo sydd wedi’u hamlygu (Gallwch wirio cyflymder eich cysylltiad yn fan hyn) cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda.
I gofrestru’ch diddordeb mewn cael Gwasanaethau Cyflym Iawn i’ch cartref, llenwch y ffurflen isod.

Paratowyd y rhestr hon â llaw gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru 2019. Nid yw’r data’n hollol gywir sy’n golygu y gallai fod gan rai o’r eiddo a restrir isod fynediad at fang eang cyflym iawn, gallai eiddo eraill gerllaw nad ydynt wedi’u rhestru gael eu heffeithio. Os nad yw’ch eiddo wedi’i restru ac rydych chi eisiau cadarnhau a ellir cysylltu’ch eiddo â Band Eang Cyflym Iawn eisoes, ewch i fan hyn.
Dyweder eich bod chi’n byw yn Cae Hen, Uwchmynydd, LL53 8BY, nodwch eich cod post llawn yn yr ardal chwilio yn rhan 2, ac ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch y blwch nesaf ato ar y canlyniad isod ac yna dewiswch y gwymplen ar y dde. Bydd hwn yn arddangos yr holl eiddo a restrir yn erbyn y cod post hwn. Dewiswch eich eiddo chi. Os nad yw’ch eiddo’n rhan o gyflwyniad cam 2a i ymestyn Band Eang cyflym iawn, cadarnheir hyn ac fe’ch anogir ar yr un pryd i edrych ar opsiynau eraill. Mae’r prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn un o’r opsiynau hyn.
Ceunant Parc, Beudy newydd, Tan y Bryn, Creua, Tyddyn Gwyn, Tyddyn gwyn, Hendre,Gwenllian, Dinas, Bodlondeb, Fron deg, Dan y ser, Bryn hyfryd, Yr hafan wen, Pen y Bryn, Ty newydd, Ferlas, Trem Moelwyn, Llys Helen, Tresaethom, Ael y Bryn, Ty Capel, Bryn y gelynnen, Weirglodd bach, Anwlfan, Bodurnig, Bwthyn llwynog, Garth Llwynog, Y Bryn, Croesor uchaf, y Bryn, Croesor Uchaf, The Drum House, Rhaiadr, Coed Ty, Tyddyn Gwyn