Mae Band Eang Cyflym Iawn wedi dod yn gyfleustodau hanfodol sy’n galluogi pobl o bob oed i weithio, dysgu a chwarae trwy ddefnyddio dyfeisiau digidol yn eu cartref neu eu gweithle. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion parhaus llywodraeth genedlaethol a lleol a chwmnïau thelathrebu, mae nifer sylweddol o gymunedau o hyd ar draws Gwynedd ac Ynys Môn wledig lle nad yw teuluoedd, busnesau ac ymwelwyr yn gallu cyrchu’r gwasanaethau hanfodol hyn trwy gysylltiad Band Eang cyflym iawn â’r rhyngrwyd.
Mae cyflwyniad Cam 2a Llywodraeth Cymru wedi cael y dasg o sicrhau bod nifer sylweddol o’r cymunedau datgysylltiedig hyn yn cael eu cysylltu â band eang cyflym iawn, ond mae hyn yn dal i adael bron i 10,000 eiddo ledled Gwynedd ac Ynys Môn heb ddyddiadau wedi’u cynllunio na’u hawdurdodi ar gyfer darparu gwasanaethau rhwydwaith Band Eang cyflym iawn ar gyfer eu cyfeiriad hwy.
Mae cymunedau cysylltiedig yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru sy’n anelu at roi’r gallu, y wybodaeth a’r mynediad at adnoddau i’r cymunedau datgysylltiedig hyn a fydd yn eu helpu i gysylltu â band eang cyflym iawn eu hunain.
Rhan gyntaf ein prosiect oedd nodi ardaloedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn lle’r oedd clystyrau o gartrefi a busnesau a oedd ar hyn o bryd wedi’u heithrio o’r estyniad arfaethedig o fand eang cyflym iawn ar draws Gogledd-orllewin Cymru. Ar ôl i’r ardaloedd hynny gael eu nodi trwy ddefnyddio ffynonellau data GIS a Llywodraeth Cymru, daeth clystyrau o eiddo lle mae’r dirwedd a ffactorau eraill fel pwyntiau cysylltu posibl i’r amlwg a oedd yn eu gwneud nhw’n hyfyw i gael eu hystyried.
Gwiriwyd yr ardaloedd yr ystyriwyd eu bod yn ymarferol yn dechnegol a chofnodwyd data pellach h.y. nifer y busnesau, pwyntiau cysylltu addas ac ati. Anfonwyd llythyrau, e-byst a mapiau at yr holl Gynghorwyr Sir a oedd â’r ardaloedd hyn o fewn eu wardiau fel eu bod yn ymwybodol o’r cynllun a sut roedd yn gweithio. Lle’r oedd yna ddiddordeb, trefnwyd cyfarfodydd i gael dealltwriaeth bellach o’r anghenion penodol a lefel y diddordeb / cefnogaeth ar gyfer gweithredu er mwyn gwella pethau.
Y cymunedau y manylir arnynt ar y wefan hon yw’r hyn a ddeilliodd o’r broses hon. Mae bron i 500 o eiddo a busnesau wedi’u lleoli yn y clystyrau hyn gyda’r potensial i eiddo a busnesau ychwanegol ym mhob cymuned i ddod i’r amlwg trwy ymglymiad cymunedol pellach.
Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cymunedol ledled Ynys Môn a Gwynedd neu roeddent i fod i gael eu cynnal pan orfododd y cyfnod llwyrgloi Cofid 19 i ni oedi.
Yng ngoleuni cyfyngiadau parhaus ac er mwyn symud ymlaen, rydym wedi creu’r wefan hon i helpu i egluro anghenion pob ardal benodol ac i hwyluso ymgysylltiad yn lle’r digwyddiadau cymunedol a gynlluniwyd.
Rydym yn cydnabod yr eironi o gael ein gorfodi i ddefnyddio’r rhyngrwyd er mwyn helpu cymunedau lleol sydd â chyflymder cysylltiad rhyngrwyd gwael i ymgysylltu â’r prosiect a chofrestru eu diddordeb. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y wefan yn syml ac yn addas at y diben hwn.
