Cymunedau Cysylltiedig

Mae yna bron i 10,000 o eiddo ledled Gwynedd ac Ynys Môn nad oes ganddynt fynediad at Fand Eang Cyflym Iawn ar hyn o bryd. Mae gan lawer o’r eiddo hyn gymdogion sydd â chysylltiad, neu sydd mewn lleoliadau anghysbell. Gellir cysylltu hanner pentref, ac eto, ar draws y ffordd ni all neb gael cyflymder cysylltu rhesymol.

Gyda dyfodiad Cofid-19 i’r rhai ohonom fyddai’n gallu gwneud eu swyddi adref yn ogystal â’u gweithle, daeth argaeledd Band Eang cyflym iawn yn beth hanfodol mwya’ sydyn. Mae problem sydd wedi effeithio ar fusnesau bach, ffermydd a myfyrwyr wedi dod yn fwy amlwg fyth ym meddyliau pobl. Yn syml, nid yw’r gallu i allu cynadledda fideo, dysgu ar-lein, rhannu dogfennau neu hyd yn oed mwynhau iplayer neu netflix yn opsiwn i ormod o gartrefi a busnesau sydd â chysylltiadau band eang cyflymder isel.

Fel rhan o raglen Cymunedau Cysylltiedig LlC, nodwyd 21 o gymunedau a gynrychiolir gan 10 clwstwr ar wahân ledled Gwynedd ac Ynys Môn. Cymunedau nad oedd ganddynt fynediad at Fand Eang Cyflym Iawn yw’r rhain, ond lle gallai eu lleoliad a’r dirwedd lle maent wedi eu lleoli ynddi ddarparu gwasanaethau Cyflym Iawn yn hyfyw yn dechnegol ac yn ariannol pe bai digon o aelwydydd a busnesau wedi cofrestru ac yn cefnogi cael Band Eang Cyflym Iawn wedi’i osod eu hunain gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a’u Hawdurdod Lleol.

Trefnwyd y byddai Cymunedau Cysylltiedig yn cynnal nifer o weithdai cymunedol gyda phobl a busnesau ar draws y cymunedau a nodwyd er mwyn:

  • egluro’r prosiect a sut y gallai datrysiad weithio,
  • dysgu mwy am eu problem (au) ac i ni allu mesur lefel y gefnogaeth er mwyn mynd i’r afael â phryderon a lle mae yna awydd i symud ymlaen,
  • dod o hyd i rai aelodau o’r gymuned a oedd am symud ymlaen i gynhyrchu dogfen dendro ac i ni roi’r gefnogaeth i’r cymunedau hyn i fynd allan i dendr am ddarpariaeth Band Eang cyflym iawn fel cymuned. 

I ddysgu mwy am bob clwstwr o gymunedau, dewiswch eicon y brif ddewislen neu ewch i’r troednodyn. Mae tudalen pob cymuned yn darparu gwybodaeth am yr ardaloedd a’r eiddo yr effeithir arnynt gyda gwybodaeth ar sut i brofi’ch llinell eich hun ac os yw’ch cyflymder yn llai na 20Mbps, cadarnhau a yw’ch eiddo ddim yn rhan o’r ddarpariaeth 2a. Mae yna ffurflen ar gyfer pob clwstwr o gymunedau sy’n eich galluogi i gofrestru diddordeb bod eich cymuned yn mynd ati i lunio tendr a sefydlu band eang cyflym iawn.Os nad yw’ch cymuned yng Ngwynedd neu Ynys Môn ar y rhestr ac ar hyn o bryd ni allwch dderbyn Band Eang Cyflym Iawn ewch i weld gwefan Llywodraeth Cymru sy’n dangos pa opsiynau sydd ar gael ichi https://llyw.cymru/band-eang-yng-nghymru/pa-opsiynau-sydd-gennyf?_ga=2.