Llanfairpwll, Penmynydd a Llanedwen

Map Llanfairpwll, Penmynydd a Llanedwen

Mae cysylltiad gwael rhwng rhannau o gymunedau Llanfairpwll, Penmynydd a Llanedwen a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r map isod yn dangos yr eiddo nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynllun cyflwyno ar hyn o bryd i gael band eang cyflym iawn wedi’i gysylltu yn y 2 – 3 blynedd nesaf. Yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yr holl eiddo sydd wedi’u marcio â dot coch yn cael band eang cyflym iawn cyn 2023 ar y cynharaf.

Nid yw’r data y mae’r map yn seiliedig arno yn hollol gywir felly; os nad yw’ch eiddo wedi’i farcio yma, os nad yw’n dangos fel dot coch ar y map neu nad yw wedi’i restru isod, nid yw hyn yn golygu na allwch gefnogi ac ymuno â thendr sy’n seiliedig ar y gymuned yn mynd allan i ddarparwyr rhwydwaith ar gyfer gosod gwasanaethau band eang cyflym iawn yn eich cartref neu fusnes. Os yw’ch eiddo ar hyn o bryd yn profi cyflymderau cysylltiad rhyngrwyd isel o lai na 20Mbps a gerllaw neu gyfagos i eiddo sydd wedi’u hamlygu (Gallwch wirio cyflymder eich cysylltiad yn fan hyn) cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda.

Paratowyd y rhestr hon â llaw gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru 2019. Nid yw’r data’n hollol gywir sy’n golygu y gallai fod gan rai o’r eiddo a restrir isod fynediad at fang eang cyflym iawn, gallai eiddo eraill gerllaw nad ydynt wedi’u rhestru gael eu heffeithio. Os nad yw’ch eiddo wedi’i restru ac rydych chi eisiau cadarnhau a ellir cysylltu’ch eiddo â Band Eang Cyflym Iawn eisoes, ewch i fan hyn.

Dyweder eich bod chi’n byw yn Cae Hen, Uwchmynydd, LL53 8BY, nodwch eich cod post llawn yn yr ardal chwilio yn rhan 2, ac ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch y blwch nesaf ato ar y canlyniad isod ac yna dewiswch y gwymplen ar y dde. Bydd hwn yn arddangos yr holl eiddo a restrir yn erbyn y cod post hwn. Dewiswch eich eiddo chi. Os nad yw’ch eiddo’n rhan o gyflwyniad cam 2a i ymestyn Band Eang cyflym iawn, cadarnheir hyn ac fe’ch anogir ar yr un pryd i edrych ar opsiynau eraill. Mae’r prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn un o’r opsiynau hyn.

Llanfairpwll

Stad -Y wern – Estate, Ffordd Angharad, Glan Llyn,  Ffordd Gwenllian, Ffordd Rhiannon, Rhes Salem Terrace, Ffordd Caergybi – Islwyn, Pennant, Hafan, Hiraethog, Tegfryn, Tal y Bont, Hafod, Glan Menai, Fferm Pont Ronwy Farm, Llwyn Edwen, Llwyn Ogan, Victoria Cottages.

Penmynydd

Sarn Faban, Rhydeilian, Tyn Coed Bach, Tyn Coed Mawr, Bryn Gof Bella, Pandy, Tyddyn y Felin, Glan ffrwd, Tyn Pistyll, Derw Newydd, Tyn Refail, Tyn Llan, Tyn Lon, Tan Rhiw, Cae Helyg, Bod Ynys, Tyn Buarth, Afallon, Mynydd Mwyn, Tyn Mynydd, Dragon newydd, Ardwyn, Cae Pellaf, Iscraig, Pencraig, Dalar deg, Pendalar, Groeslon, Dragon isaf, Twll y Clawdd, Cefn Du isaf, Llinos Fawr, Fron deg, Fron Capel, Dragon Goch

Llanedwen

Llwyn onn, Pink Lodge. Bailiff’s Cottage, Plas Newydd Home Farm, Plas Newydd Bothy, Plas Llanedwen, Plas Newydd Farm Lodge, Plas Coch Lodge, Wrach Du, Perth y Ber, Cwr Du, Glan Llyn, Ffridd Bach, Gwydryn Bach, Gwydryn Newydd, Fodol, Porthamel Lodge, Cerrig goch, Carreg Boeth, Tyddyn Bach, Pen y Craig, Tyddyn Adda, Benlas, Cerrig Camog Bach