Pencarnisiog a Dothan

Map Pencarnisog a Dothan

Mae cysylltiad gwael rhwng rhannau o gymunedau Pencarnisiog a Dothan a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r map isod yn dangos yr eiddo nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynllun cyflwyno ar hyn o bryd i gael band eang cyflym iawn wedi’i gysylltu yn y 2 – 3 blynedd nesaf. Yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yr holl eiddo sydd wedi’u marcio â dot coch yn cael band eang cyflym iawn cyn 2023 ar y cynharaf.

Nid yw’r data y mae’r map yn seiliedig arno yn hollol gywir felly; os nad yw’ch eiddo wedi’i farcio yma, os nad yw’n dangos fel dot coch ar y map neu nad yw wedi’i restru isod, nid yw hyn yn golygu na allwch gefnogi ac ymuno â thendr sy’n seiliedig ar y gymuned yn mynd allan i ddarparwyr rhwydwaith ar gyfer gosod gwasanaethau band eang cyflym iawn yn eich cartref neu fusnes. Os yw’ch eiddo ar hyn o bryd yn profi cyflymderau cysylltiad rhyngrwyd isel o lai na 20Mbps a gerllaw neu gyfagos i eiddo sydd wedi’u hamlygu (Gallwch wirio cyflymder eich cysylltiad yn fan hyn) cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda.

I gofrestru’ch diddordeb mewn cael Gwasanaethau Cyflym Iawn i’ch cartref, llenwch y ffurflen isod.

Paratowyd y rhestr hon â llaw gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru 2019. Nid yw’r data’n hollol gywir sy’n golygu y gallai fod gan rai o’r eiddo a restrir isod fynediad at fang eang cyflym iawn, gallai eiddo eraill gerllaw nad ydynt wedi’u rhestru gael eu heffeithio. Os nad yw’ch eiddo wedi’i restru ac rydych chi eisiau cadarnhau a ellir cysylltu’ch eiddo â Band Eang Cyflym Iawn eisoes, ewch i fan hyn.

Dyweder eich bod chi’n byw yn Cae Hen, Uwchmynydd, LL53 8BY, nodwch eich cod post llawn yn yr ardal chwilio yn rhan 2, ac ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch y blwch nesaf ato ar y canlyniad isod ac yna dewiswch y gwymplen ar y dde. Bydd hwn yn arddangos yr holl eiddo a restrir yn erbyn y cod post hwn. Dewiswch eich eiddo chi. Os nad yw’ch eiddo’n rhan o gyflwyniad cam 2a i ymestyn Band Eang cyflym iawn, cadarnheir hyn ac fe’ch anogir ar yr un pryd i edrych ar opsiynau eraill. Mae’r prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn un o’r opsiynau hyn.

Tyddyn Hywel, Fferam Tal y llyn, Fferam Bungalow, Trerufydd, Rhosbadrig, Rhytty Cottage, Glanrafon, Tanlon, Tai Moelion, Cwyrtai, Keeper’s Cottage, Penrhyd, Cerrig Cafael, Groeslon, Pen y Bryn, Pencloc, Ty Capel, Bonc, Ddrydwy, Bonc eithin, Fferm Glan y Gors, Glan y Gors, Cae’r Felin, Bryn Llwyd, Fferm Pencarnisiog, Bryn Llawenydd, Siop isaf, Tynygongl, Tyn rallt, Tegwel, Gorffwysfa, Bodfa, Gwel y Grug, Llety’r wennol. Garden Terrace, Foundry Terrace, Carreg Llwyd, Cartref, Bryntirion, Tyddyn Captain, Glan Morfa, Tyddyn Harri, Castell, Bryn Comas, Cogwrn, Bryn Llawenydd, Hillside, Craigle, Maen hir, Cerrig Myna, Cae Crin, Caerwnsiwn, Gwenallt, The Coach House, Bodrwnsiwn, Caer Nant, Hafod y Bedol, Glangors Newydd, Dyfria, Meidref Farm, Grug Bach, Llain Delyn, Llain Big, Cae’r Felin Bungalow, Cae Coch.