Rhiwlas, Waen Pentir a Felin hen

Map Rhiwlas, Felin hen a Tregarth

Mae cysylltiad gwael rhwng rhannau o gymunedau Rhiwlas, Waen Pentir a Felin hen a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r map isod yn dangos yr eiddo nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynllun cyflwyno ar hyn o bryd i gael band eang cyflym iawn wedi’i gysylltu yn y 2 – 3 blynedd nesaf. Yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yr holl eiddo sydd wedi’u marcio â dot coch yn cael band eang cyflym iawn cyn 2023 ar y cynharaf.

Nid yw’r data y mae’r map yn seiliedig arno yn hollol gywir felly; os nad yw’ch eiddo wedi’i farcio yma, os nad yw’n dangos fel dot coch ar y map neu nad yw wedi’i restru isod, nid yw hyn yn golygu na allwch gefnogi ac ymuno â thendr sy’n seiliedig ar y gymuned yn mynd allan i ddarparwyr rhwydwaith ar gyfer gosod gwasanaethau band eang cyflym iawn yn eich cartref neu fusnes. Os yw’ch eiddo ar hyn o bryd yn profi cyflymderau cysylltiad rhyngrwyd isel o lai na 20Mbps a gerllaw neu gyfagos i eiddo sydd wedi’u hamlygu (Gallwch wirio cyflymder eich cysylltiad yn fan hyn) cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda.

I gofrestru’ch diddordeb mewn cael Gwasanaethau Cyflym Iawn i’ch cartref, llenwch y ffurflen isod.

Eiddo yr Effeithir arnynt

Paratowyd y rhestr hon â llaw gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru 2019. Nid yw’r data’n hollol gywir sy’n golygu y gallai fod gan rai o’r eiddo a restrir isod fynediad at fang eang cyflym iawn, gallai eiddo eraill gerllaw nad ydynt wedi’u rhestru gael eu heffeithio. Os nad yw’ch eiddo wedi’i restru ac rydych chi eisiau cadarnhau a ellir cysylltu’ch eiddo â Band Eang Cyflym Iawn eisoes, ewch i fan hyn.

Dyweder eich bod chi’n byw yn Cae Hen, Uwchmynydd, LL53 8BY, nodwch eich cod post llawn yn yr ardal chwilio yn rhan 2, ac ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch y blwch nesaf ato ar y canlyniad isod ac yna dewiswch y gwymplen ar y dde. Bydd hwn yn arddangos yr holl eiddo a restrir yn erbyn y cod post hwn. Dewiswch eich eiddo chi. Os nad yw’ch eiddo’n rhan o gyflwyniad cam 2a i ymestyn Band Eang cyflym iawn, cadarnheir hyn ac fe’ch anogir ar yr un pryd i edrych ar opsiynau eraill. Mae’r prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn un o’r opsiynau hyn.

Mill Cottage, Felin hen uchaf, Felin hen Cottage, Tyddyn Sarn, The old Smithy, Yr Efail, Ty’n y Caeau, Fferm tan y foel, Bryn tegau, Capel Chwarel Goch, Llidiart y mynydd, Carwyn, Godre’r Parc, Waen Hir uchaf, Greenacres Hall. Waenhir uchaf, Fferm Bwlch Defeity, Carreg Fedwen, Rallt Cottage, Rallt isaf, Rallt uchaf, Tan y grath, Tan y Grisiau, Hedd y Mynydd, Ty newydd bach Tyddyn Canol, Moel y Ci, Tre Menai, Tyddyn canol, Barn Cottages, Tan y Castell, Fferm Castell, Efail Castell, Rhydau, Ty’n y gadlas, Felin Uchaf and Y Dderwen